United Kingdom·July 13 - 15 2018

GŴYL LOVE TRAILS

Tri diwrnod o anturiaethau rhedeg llwybr, sgyrsiau ysbrydoledig a cherddoriaeth byw yn un o ardaloedd arfordirol harddaf Prydain.

ENQUIRE
170824-annarachelphotography-lowres-1702 (1)

Overview

Cyfunir rhedeg llwybr, cerddoriaeth gyfoes â golygfeydd hudolus yn yr ŵyl dri diwrnod ysbrydoledig yma yng nghefn gwlad Cymru. Gyda harddwch naturiol Y Gŵyr fel cefndir, byddwch yn cael eich tywys mewn grwpiau ar hyd llwybrau arfordirol, traethau, clogwyni, coedlannau hynafol a thwyni tywod yng ngolau dydd neu gyda’r nos. Cewch hefyd gyfle i fwynhau rhai o lwybrau rhedeg gorau’r wlad, gyda Bae Rhosili - gafodd ei enwi'r traeth gorau ym Mhrydain - yn ddim ond pedwar cilometr i ffwrdd o safle’r ŵyl. O deithiau 3km i 60km, gyda grwpiau yn rhedeg ar wahanol gyflymderau, mae’r amrywiaeth yn golygu bod yma rywbeth i bawb. Neu beth am roi tro ar y ras gwrw gyfnewid, y daith dafarn enwog, anturiaethau cyfrinachol, helfa drysor, nofio gwyllt neu hyd yn oed syrffio, cyn ymlacio gyda gweithgareddau fel sesiwn yoga neu socian mewn pwll poeth? Gyda’r nos, ymgartrefwch ger y tân cynnes i wrando ar sgyrsiau ysbrydoledig gan athletwyr, anturwyr ac arweinwyr, cyn dawnsio i gyfeiliant y gerddoriaeth fyw a’r DJs wrth i’r haul fachlud a’r sêr ymddangos.

Highlights

Taith tafarn-i-dafarn

Taith tafarn-i-dafarn

Rhedeg a Nofio Gwyllt

Rhedeg a Nofio Gwyllt

Partïon Ar Ôl Rhedeg

Partïon Ar Ôl Rhedeg

Sgyrsiau y Llwyfan Tȃn Gwersyll

Sgyrsiau y Llwyfan Tȃn Gwersyll

Ras Gwrw Gyfnewid

Ras Gwrw Gyfnewid

Yoga a Llesiant

Yoga a Llesiant

Gweithdai

Gweithdai

Anturiaethau Rhedeg Llwybr Dan Arweiniad

Anturiaethau Rhedeg Llwybr Dan Arweiniad

Bandiau byw

Bandiau byw

Add Ons

Car Park Pass

PRICE$13.07/pp

GŴYL LOVE TRAILS

United Kingdom·July 13 - 15 2018·2 nights

FROM$0